Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee
Edwina Hart AC Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru
|
|
23 Hydref 2013 |
|
Annwyl Weinidog
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15
Hoffwn ddiolch i chi a'ch swyddogion am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes a gynhaliwyd ar 17 Hydref er mwyn cynorthwyo â'n gwaith craffu ar gynigion y gyllideb ddrafft 2014-15. Fel y soniais yn y cyfarfod, rydym yn ddiolchgar bod lefel y manylion yn eich papur am y gyllideb yn ymateb i'r ceisiadau yn fy llythyr dyddiedig 5 Awst.
Mae'r gwaith craffu eleni wedi canolbwyntio'n bennaf ar flaenoriaethau'r gyllideb a gwerth am arian. Rydym yn awyddus i wahaniaethu'n glir rhwng monitro a gwerthuso. Mae ein gwaith craffu wedi ystyried hefyd a yw eich polisïau wedi cyfrannu at gyflawni amcanion perthnasol y Rhaglen Lywodraethu, fel creu swyddi, hybu twf a threchu tlodi.
Eleni, rydym hefyd wedi trafod sut y caiff gwariant ataliol ei ystyried yn eich gwaith datblygu polisïau, hynny yw, gwariant sy'n rhoi sylw i atal problemau a lleddfu galw'r dyfodol am wasanaethau drwy ymyrryd yn fuan.
Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion i chi eu hystyried ac ymateb iddynt. Rydym hefyd yn anfon y llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid er mwyn helpu'r Pwyllgor hwnnw i graffu'n strategol a chyffredinol ar y gyllideb ddrafft. Bydd y llythyr hwn a'ch ateb chi yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
1. Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Gwerth am arian – y cynnydd ar sail y Rhaglen Lywodraethu, a pherfformiad yr adrannau
Yn ein gwaith craffu, buom yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn gwario'i dyraniadau yn effeithiol ac yn effeithlon. Hynny yw, a yw eich adrannau yn cael y canlyniadau gorau posibl am yr adnoddau, a phethau eraill, a ddefnyddiwyd.
Fe wnaethoch gynnig rhoi diweddariadau chwe misol i ni am hynt eich gwaith ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.
Argymhelliad 1
Rydym yn croesawu eich cynnig i roi diweddariadau i ni bob chwe mis am hynt eich gwaith ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Byddem yn ddiolchgar pe gallai'r diweddariadau hynny gynnwys gwybodaeth am nifer y swyddi sydd wedi'u creu, eu diogelu a'u cynorthwyo gan yr adran. Byddem hefyd yn gwerthfawrogi gwybodaeth am nifer y swyddi mewnfuddsoddi pendant sydd wedi'u creu gan yr adran (o gymharu â ffigurau ehangach Masnach a Buddsoddi y DU, sy'n seiliedig ar gyhoeddiadau).
Mae'r Pwyllgor yn awyddus iawn i wneud rhagor o waith craffu ariannol y flwyddyn nesaf, yn enwedig edrych yn fanylach ar yr allbynnau ar sail gwariant yn ystod 2012-13, ac olrhain perfformiad eich adran. Felly, rydym yn awgrymu bod hyn yn rhan o'ch diweddariadau chwe mis o hyn ymlaen.
Argymhelliad 2
Fel rhan o'ch diweddariad chwe mis, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi tabl i ni sy'n dangos allbwn pob rhaglen/maes gweithgaredd unigol ynghyd â gwybodaeth, lle bo modd, am y gwariant perthnasol. Hefyd, byddem yn ddiolchgar pe gallech gynnwys y wybodaeth hon yn eich diweddariadau chwe mis am drafnidiaeth. Hoffem gael y diweddariad cyntaf ym mis Chwefror 2014 er mwyn i ni fedru craffu ar y gyllideb atodol yn ystod y flwyddyn.
Gwerth am arian – gwerthuso rhaglenni
Rydym yn croesawu'r sylw a wnaeth eich swyddogion fod
eich adran yn gwerthuso'i holl raglenni ac yn rhoi cyfrif am unrhyw
ddifuddiant a dadleoli.
Argymhelliad 3
Byddem yn falch o gael rhestr o'r rhaglenni sydd wedi'u gwerthuso, a dyddiadau'r adroddiadau gwerthuso.
Gwerth am arian – Parthau Menter
Rydym yn edrych ymlaen at weld y data perfformiad am y Parthau Menter, a gaiff eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn, ac rydym yn falch eich bod wedi cadarnhau y bydd y data yn cynnwys targedau penodol, mesuradwy ac amseredig ar gyfer 2014-15.
Blaenoriaethu– cymorth ariannol ar gyfer busnes
Roedd ein gwaith craffu ar y blaenoriaethu o fewn eich portffolio yn canolbwyntio ar y modd y dyranwyd y gyllideb rhwng gwahanol raglenni. Buom hefyd yn ystyried a oedd hynny'n ystyrlon, ac a oedd cyfiawnhad drosto.
Yn ystod y drafodaeth a gawsom am gyllid trafodion ariannol, clywsom eich bod yn disgwyl cael rhagor o fanylion gan Drysorlys ei Mawrhydi ynghylch yr amserlen ar gyfer y gyfran honno (80%) o'r cyllid y bydd angen ei had-dalu i'r Trysorlys, a'r amodau ar gyfer gwneud hynny.
Argymhelliad 4
Byddem yn falch o gael nodyn pellach gennych ynghylch cyllid trafodion ariannol pan fyddwch wedi cael cadarnhad gan Drysorlys Ei Mawrhydi.
Buom hefyd yn trafod y cydbwysedd rhwng cymorth grant traddodiadol a benthyciadau y mae angen eu had-dalu, a byddem yn gwerthfawrogi eglurhad pellach am hyn.
Argymhelliad 5
Byddem yn croesawu nodyn gennych yn esbonio faint yn union y mae eich adran yn ei ddyrannu i grantiau a benthyciadau, a hefyd sut y mae allbwn ac effeithiolrwydd y naill a'r llall yn cael eu monitro a'u gwerthuso.
Prosesau cyllidebol – polisi sectorau
Buom yn trafod sut yr ydych yn asesu effaith eich penderfyniadau ar gydraddoldeb, ac a ydych yn cynnwys asesiad o ddatblygu cynaliadwy fel rhan o'ch prosesau cyllidebol. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymateb didwyll a gawsom gennych, sef bod hyn yn aml yn beth anodd i'w wneud, a'ch bod yn ystyried cydraddoldeb a datblygu cynaliadwy fel rhan o'ch adolygiadau chwarterol rheolaidd.
Yn benodol, rydym yn croesawu'n fawr eich cynnig i ddarparu nodyn ynghylch sut yr ydych wedi mynd ati i ystyried effeithiau'r polisi sectorau ar gydraddoldeb, yn enwedig o ran yr anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sectorau sy'n flaenoriaeth.
Argymhelliad 6
Fe wnaethoch gynnig rhoi rhagor o ystyriaeth i'r gwelliannau y gallai eich adran chi eu gwneud o ran Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddarparu nodyn yn esbonio dull eich adran o asesu effaith ei gwaith ar gydraddoldeb a datblygu cynaliadwy.
2. Trafnidiaeth
Fforddiadwyedd– cyllid refeniw
Rydym yn pryderu am effaith y gostyngiad yn y cyllid refeniw yn y gyllideb drafnidiaeth ar allu eich adran i fodloni ei rhwymedigaethau statudol a chontractiol, ac i ddiogelu/gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol.
Argymhelliad 7
Byddem yn falch o gael diweddariad cyn gynted ag y bo modd am y gwaith i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn y cyllid refeniw, yn ogystal â'r wybodaeth sydd i'w darparu ar ôl y gyllideb atodol nesaf.
Blaenoriaethu– Y Bil Teithio Llesol
O ran ein trafodaeth am weithredu'r Bil Teithio Llesol (Cymru), byddem yn croesawu rhagor o eglurder am yr amcangyfrifon o'r costau sy'n sail i'r dyraniad cyllidebol ar gyfer gweithredu'r Bil. Byddem hefyd yn croesawu rhagor o eglurder am y modd y caiff y Bil ei gydgysylltu â'r Adran Diwylliant a Chwaraeon. Deallwn fod y Gweinidog Cyllid wedi dweud, os bydd gweithredu deddfwriaeth yn arwain at gostau uwch nag a ragwelwyd, y bydd disgwyl i'r Gweinidog perthnasol ganfod y cyllid ychwanegol o'i bortffolio ei hun.
Argymhellion 8, 9 a 10
Hoffem gael esboniad gennych ynghylch pa agweddau ar y Bil Teithio Llesol y mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn gyfrifol amdanynt, pa agweddau y mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gyfrifol amdanynt, a pha gyfran o'r gyllideb a ddyrannwyd i'r naill bortffolio a'r llall.
Hoffem esboniad pellach ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddatblygu a darparu’r Cynllun Teithio Llesol sy'n cyd-fynd â'r ymyriadau seilwaith y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil Teithio Llesol. Hefyd, a fyddech cystal ag esbonio a oes unrhyw ddarpariaeth wedi'i gwneud yn eich cyllideb ddrafft ar gyfer datblygu a darparu’r Cynllun.
Yr oeddech hefyd wedi cynnig rhoi gwybodaeth i ni ynghylch sut y mae'r dyraniadau cyfalaf ar gyfer teithio llesol yn gysylltiedig â gweithredu'r Bil Teithio Llesol.
Gwerth am arian – gwasanaethau bws
O ran ariannu gwasanaethau bws, yn enwedig y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol, deallwn eich bod yn bwriadu gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith y trefniadau ariannu newydd. Croesawn eich cynnig i ddod i siarad â'r Pwyllgor am eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn y cyfamser, byddem yn falch o gael esboniad am y cyllid ar gyfer Trafnidiaeth Gymunedol, ac am y Strategaethau ar gyfer Rhwydweithiau Trafnidiaeth Bws a Thrafnidiaeth Gymunedol Rhanbarthol.
Argymhellion 11 a 12
A fyddech cystal ag esbonio statws y Strategaethau ar gyfer Rhwydweithiau Trafnidiaeth Bws a Thrafnidiaeth Gymunedol Rhanbartholsydd wrthi'n cael eu datblygu gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, o ystyried yr adolygiad ehangach o gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a'r ddarpariaeth gwasanaethau bws y cyfeiriwyd atynt yn eich tystiolaeth lafar.
A allwch ei gwneud yn glir a yw'r arian yr oeddech yn cyfeirio ato ar gyfer Trafnidiaeth Gymunedol, sydd yn 'dyblu, i bob pwrpas', yn cynnwys yr arian a ddyrannwyd yn flaenorol i'r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol.
Gwerth am arian – Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chenedlaethol
Yn eich tystiolaeth fe wnaethoch gyfeirio at 'ddiffyg yn y trefniadau cyfredol' i werthuso effeithiau cronnus a hirdymor y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, o gymharu â gwerthuso cynlluniau unigol. Byddem yn gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys fforddiadwyedd yr ymrwymiadau cyfalaf cyfredol.
Argymhellion 13 ac 14
A allwch esbonio sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r hyn a ddisgrifiwyd gennych yn 'ddiffyg yn y trefniadau' i werthuso'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol? Hoffem gael yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn a sut y bydd gwerthuso, yn hytrach na monitro'n unig, yn rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol nesaf o'r cam datblygu ymlaen.
Cawsom wybod gennych na fu newid i'r amserlen ar gyfer y broses pedwar cam o ddatblygu'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a amlinellwyd yn y papur i'r Cabinet ar 19 Chwefror 2013. A allwch ein sicrhau y bydd y cynlluniau wedi'u cyflwyno erbyn 1 Ebrill 2015, a rhoi diweddariad i ni am ganlyniadau cam cyntaf y broses?
Gwerth am arian – y Metro
Rydym yn croesawu eich cynnig i siarad â'r Pwyllgor am y cynigion ar gyfer creu Metro yn rhanbarth Caerdydd. Fel y gwyddoch, mae sesiwn wedi'i threfnu ar 5 Rhagfyr i drafod y materion hyn yn fanwl. Yn y cyfamser, gan eich bod wedi cadarnhau y byddech yn paratoi cynlluniau cyflawni wedi'u costio, byddem yn falch o gael rhagor o wybodaeth am hynt y cynlluniau hynny.
Argymhelliad 15
Hoffem wybod pryd y byddwch mewn sefyllfa i ddarparu cynlluniau cyflawni wedi'u costio ar gyfer Ymyriadau Trafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru (y Metro) a Gogledd-ddwyrain Cymru.
Diolch i chi am gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu. Edrychwn ymlaen at gael eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn.
Yn gywir
Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
cc Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid